#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau a Hyfforddiant > Cymorth Busnes

Cymorth Busnes

Cefnogaeth i Fusnesau Annibynnol ar y Stryd Fawr drwy Drefi Smart

Mae Trefi Smart yn defnyddio data digidol i helpu busnesau annibynnol i ffynnu. Drwy ddefnyddio data o Active Intelligence BT – a data lleol lle mae ar gael – rydym yn dadansoddi tueddiadau, ymddygiad ymwelwyr a phatrymau gweithgarwch yng nghanol y dref. Rydym yn darparu mewnwelediadau clir ac anhysbys sy’n gallu eich helpu i wneud penderfyniadau am oriau agor, staffio, marchnata a mwy.

Gallwch gael ymgynghoriadau un-i-un am ddim i drafod beth mae’r data’n ei olygu i’ch busnes chi, neu weithio drwy grwpiau busnes sefydledig yn eich ardal. Gallwn hefyd roi cyngor ar sut i ddefnyddio data eich busnes eich hun a dulliau casglu data sy’n bodloni gofynion diogelu data.

Rydym yn rhannu enghreifftiau o adroddiadau anhysbys fel y gallwch weld y math o fewnwelediad sydd ar gael. Darllenwch ein hastudiaethau achos ac enghreifftiau o adroddiadau i weld sut mae busnesau eraill eisoes yn elwa. Os ydych yn cynllunio ymlaen llaw neu’n ymateb i newid, mae data Trefi Smart yn rhoi’r wybodaeth leol sydd ei hangen arnoch i symud ymlaen yn hyderus.

I drefnu eich ymgynghoriad un i un am ddim, llenwch y ffurflen Cymorth Busnes Smart AM DDIM a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi yn fuan.

Lawrlwytho Canllaw

Llenwch y ffurflen hon i lawr lwytho ein canllaw am ddim - dogfen gynhwysfawr sy’n egluro ein gwasanaethau mewn termau clir ac addas i ddechreuwyr.

Cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio (Ia/Na).