#TrefiSmartCymru

Polisi Preifatrwydd

Mae Trefi Smart Cymru wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd pan rydych yn cydweithio a ni neu yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham yr ydym yn defnyddio a gwarchod eich gwybodaeth bersonol chi.

1. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei gasglu amdanoch?

Rydym yn casglu'r math yma o wybodaeth amdanoch:

  • Enw
  • Cyfeiriad E-bost
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Manylion Iechyd

2. Pam rydym angen eich gwybodaeth chi?

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn

  • marchnata
  • cynnal rhestr bostio
  • caniatáu cyfranogi mewn prosiectau peilot
  • cadw cofnod o fynychwyr digwyddiadau e.e. cofrestrau
  • gwaith ymchwil

Byddwn hefyd o bryd i’w gilydd yn yn anonimeiddio’r wybodaeth at bwrpas casglu ystadegau a gwaith ymchwil.

3. Hawl a Sail Gyfreithiol

Mae’r Rheoliad Diogelu Data yn nodi bod rhaid i ni gael sail gyfreithiol er mwyn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol.

Bydd Trefi Smart Cymru yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar sail yr amod hwn:

  • Prosesu yn unol â chaniatâd yr unigolyn

Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi beth yn union yw’r amod gyfreithiol berthnasol yn ein rhybuddion preifatrwydd ar ein ffurflenni wrth gasglu’r wybodaeth gennych.

4. Rhannu Gwybodaeth

O bryd i’w gilydd bydd Trefi Smart Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda phartneriaid a sefydliadau allanol er mwyn cydweithio ar brosiectau, cynnal digwyddiadau ac ateb gofynion gweithredu’r rhaglen. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un a phwy yn ein rhybuddion preifatrwydd ar ein ffurflenni wrth gasglu’r wybodaeth gennych. Os yw casglu’r wybodaeth yn seiliedig ar eich caniatâd chi, yna mae gennych hawl i wrthod i ni rannu eich gwybodaeth ac eraill.

5. Hawliau Unigolion

Gweler Rhybudd Preifatrwydd Menter Môn yma https://www.mentermon.com/en/cwestiynau-ac-atebion/ am wybodaeth bellach am eich hawliau.

6. Diogelu eich gwybodaeth

Bydd Menter Môn bob amser yn cymryd camau priodol i warchod eich gwybodaeth bersonol sydd yn ein gofal. Mae gennym drefniadau gwaith a systemau mewn lle i reoli mynediad, trosglwyddo a dileu gwybodaeth mewn modd diogel. Mae staff yn cael eu hanwytho a hyfforddi i gadw gwybodaeth yn ddiogel a chydymffurfio gyda’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

7. Pa mor hir byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Beth yw’r wybodaeth?

Sut yn ei gasglu a’i gadw?

Cyfnod Cadw?

Rhestrau postio

  • Casglu eich manylion drwy ffurflenni papur neu ffurflen gofrestru ar lein.
  • Bydd y manylion yn cael eu mewnbynnu a’i cadw mewn cronfa ddata electroneg a bydd ffurflenni papur yn cael eu sganio.
  • Byddwn yn cadw fersiwn electroneg/ papur / electroneg a phapur o’r ffurflenni ac eich manylion yn y rhestr bostio / cronfa ddata tan yr ydych yn gofyn i ni eich tynnu oddi arno. Fel arall byddwn yn eu cadw am hyd at 3 blynnedd yn unol â gofynion ein cronfa gyllido.
  • Byddwn yn adolygu ein rhestrau postio yn rheolaidd a chewch ofyn i gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio unrhyw bryd.
  • Byddwn yn gwaredu’r copïau papur unwaith y byddwn wedi eu sganio i mewn i’n system electroneg.

Caniatâd cyfranogi mewn prosiectau

  • Casglu eich manylion drwy ffurflenni papur neu ffurflen gofrestru ar-lein
  • Bydd y manylion yn cael eu mewnbynnu a’i cadw mewn cronfa ddata electroneg a bydd ffurflenni papur yn cael eu sganio.
  • Byddwn yn cadw fersiwn electroneg / papur / electroneg a phapur o’r ffurflenni ac eich manylion mewn cronfa ddata am hyd at 3 blynnedd yn unol â gofynion ein cronfa gyllido.
  • Byddwn yn gwaredu’r copïau papur unwaith y byddwn wedi eu sganio i mewn i’n system electroneg.

Cofrestrau mynychu digwyddiadau

  • Casglu eich manylion drwy ffurflenni papur.
  • Bydd y manylion yn cael eu mewnbynnu a’i cadw mewn cronfa ddata electroneg a bydd ffurflenni papur yn cael eu sganio.
  • Byddwn yn cadw fersiwn electroneg / papur / electroneg a phapur o’r ffurflenni ac eich manylion mewn cronfa ddata am hyd at 3 blynnedd yn unol â gofynion ein cronfa gyllido.
  • Byddwn yn gwaredu’r copïau papur unwaith y byddwn wedi eu sganio i mewn i’n system electroneg.

Gwaith Ymchwil

  • Byddwn yn defnyddio manylion personol sydd eisoes yn ein cronfa ddata ac yn ei anonimeiddio at bwrpas ystadegol a gwaith ymchwil.
  • Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol drwy holiaduron ar lein a phapur, sydd yn ddienw ac wedi ei anonimeiddio o’r cychwyn cyntaf at bwrpas ystadegol a gwaith ymchwil.
  • Mae gwybodaeth bersonol yn ein cronfeydd data yn cael ei gadw am hyd at 3 blynnedd yn unol â gofynion ein cronfa gyllido, oni bai eich bod wedi tynnu eich caniatad yn ôl.
  • Byddwn hefyd yn cadw’r holl waith ystadegol ac ymchwil wedi ei anonimeiddio am yr un cyfnod.

Cysylltu a gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cwyn, cysylltwch â ymholiadau@mentermon.com

Gweler Rhybudd Preifatrwydd Menter Môn yma: https://www.mentermon.com/cwestiynau-ac-atebion/

Neu am gyngor annibynnol am ddiogelu data, cysylltwch â’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/make-a-complaint/your-personal-information-concerns/