#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau a Hyfforddiant > Cymorth Busnes > Esiampl o Gynllun Weithredu Busnes Stryd Fawr

Esiampl o Gynllun Weithredu Busnes Stryd Fawr

Clawr Cynllun Gweithredu Busnes

Os ydych yn rhan o grŵp busnes, bydd aelod o’r Tîm Trefi Smart fel arfer yn dechrau gyda chyflwyniad byr i’r rhaglen Trefi Smart, wedi’i ddilyn gan gyflwyniad wedi’i deilwra i’ch stryd fawr. Mae’r sesiwn hon yn pwysleisio tueddiadau data allweddol ac yn archwilio digwyddiadau pwysig yn eich tref. Byddwn yn edrych ar sut mae ymweliadau wedi newid dros amser, pa mor hir y mae ymwelwyr yn aros, a hyd yn oed y mathau o bobl sy’n ymweld â’ch tref – gan gynnwys o ble maen nhw wedi teithio, yn ogystal â’u proffiliau oedran, rhyw ac incwm.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, byddwch yn cael ymgynghoriad 1:1. Dyma eich cyfle i holi cwestiynau penodol, archwilio metrigau penodol mewn mwy o fanylder neu drafod eich nodau busnes a sut y gall data eu cefnogi. Os nad ydych yn rhan o grŵp busnes, mae’n bosibl y gallwn barhau i gynnig ymgynghoriad ar-lein i chi, yn ddibynnol ar argaeledd y tîm. Yn yr achos hwn, byddwn yn anfon dogfen gefndir atoch, yn esbonio’r gwahanol fetrigau a sut maen nhw’n cael eu mesur, er mwyn i ni ddefnyddio’r amser ymgynghori i ganolbwyntio ar y data sydd fwyaf pwysig i’ch busnes chi.

Yn y ddau achos, yn dilyn yr ymgynghoriad byddwch yn derbyn adroddiad personol gan gynnwys sgrinluniau o'r data a throsolwg o'r drafodaeth ynghyd ag awgrymiadau wedi’u teilwra’n benodol ar sut y gall eich busnes weithredu ar y data a rennir.

Dyma Enghraifft o Gynllun Gweithredu diweddar a rannwyd gyda busnes. Eisiau darganfod sut y gall data’r stryd fawr gefnogi eich busnes? Cofrestrwch ar gyfer ymgynghoriad am ddim nawr!

Cofrestrwch Rwan