#TrefiSmartCymru

Croeso i wefan Trefi Smart

Mae Tref Smart yn ardal drefol sy'n defnyddio gwahanol fathau o ddulliau electronig a synwyryddion i gasglu data. Defnyddir y mewnwelediadau a geir o'r data hwnnw i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau yn effeithlon; yn gyfnewid, mae’r data'n cael ei ddefnyddio i wella gweithrediadau a ffyniant yn y dyfodol ar draws y dref.

Mae rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru wedi’i hymestyn tan 2025.

Yn ystod ‘Blwyddyn Trefi Smart’, cyflwynodd y rhaglen weithdai i dros 60 o drefi, cynhyrchodd 25 o gynlluniau gweithredu digidol a rhoddodd prosiectau peilot ac astudiaethau achos ar waith ledled Cymru.

Mae’r rhaglen yn parhau i gefnogi busnesau, cynghorau a chymunedau i ddefnyddio technoleg ddigidol a data i adfywio eu strydoedd mawr, yn unol ag agenda Trawsnewid Trefi.

Mae hyn yn golygu helpu busnesau i weithio'n gallach ac nid yn galetach gan ddefnyddio data i ragweld cyfnodau prysur a nodi cyfleoedd ar gyfer twf; defnyddio data i gyfiawnhau a llywio buddsoddiad, ac i fesur llwyddiant unrhyw ymyriadau.

Digwyddiadau

Gwelwch ein Sianel YouTube

Twitter

Digwyddiadau

Mae Trefi Smart Cymru yn cynnal digwyddiadau’n rheolaidd, mewn person ac ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau rhwydweithio ar-lein chwarterol lle rydym yn canolbwyntio ar her benodol ac yn rhannu syniadau ac arfer gorau, ‘Arddangosiadau Atebion Clyfar’ chwarterol lle rydym yn gwahodd darparwyr technoleg sydd ar flaen y gad i gyflwyno eu cynnyrch a’u gwasanaethau, a gweithdai ‘Dod yn Dref Glyfar’ rheolaidd.

I gael y rhestrau digwyddiadau diweddaraf, ewch i'n Eventbrite:

Eventbrite

Cofiwch gofrestru ar ein rhestr bostio i wneud yn siŵr nad ydych yn colli unrhyw un o’n digwyddiadau.