#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau a Hyfforddiant > Canllaw Cysylltedd

Canllaw Cysylltedd

Pam mae Cysylltedd yn Bwysig

Mae cysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd a signal ffôn symudol yn hanfodol i redeg busnes llwyddiannus - boed hynny’n derbyn taliadau cerdyn, rheoli archebion ar-lein neu cadw mewn cyswllt â chwsmeriaid. Gall cysylltedd gwael eich arafu a’ch costio arian.

Mae’r Canllaw Cysylltedd hwn yn eich helpu i ddeall y pethau sylfaenol, nodi problemau cyffredin, a’u datrys gyda chyngor ymarferol cam wrth gam. Fe’i datblygwyd yn wreiddiol gan Uchelgais Gogledd Cymru fel rhan o’r prosiect Cysylltedd Digidol Gwledig, ac mae wedi’i rannu’n garedig â Threfi Smart er budd busnesau ledled gweddill y wlad.