#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau a Hyfforddiant > Hyfforddiant Llysgenhadon Smart

Hyfforddiant Llysgenhadon Smart

Rhaglen Hyfforddi Llysgenhadon Smart

Roedd Rhaglen Llysgenhadon Smart yn fenter hyfforddi pum sesiwn a gafodd ei chynllunio i gefnogi cynghorau tref a sir – yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym meysydd digidol, smart, neu adfywio – i ddatblygu’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen i ysgogi newid smart a chynaliadwy yn eu cymunedau.

Cafodd y rhaglen ei hariannu gan Raglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru ac fe’i chyflwynwyd gan BABLE: Smart Cities. Derbyniwyd dros 50 o geisiadau, gyda chynrychiolwyr o bron bob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan. Roedd y sesiynau’n ymdrin â themâu allweddol megis cyfranogiad dinasyddion, strategaethau gweithredu smart, digideiddio mannau cyhoeddus, arloesi sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, cafodd y llysgenhadon eu hannog i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda’u timau lleol a busnesau, ac mae llawer ohonynt eisoes wedi defnyddio’r mewnwelediadau hyn mewn ffyrdd ymarferol. Mae’r astudiaethau achos isod yn tynnu sylw at sut mae’r hyfforddiant wedi dylanwadu ar weithredu lleol ledled Cymru... Astudiaethau achos ar y ffordd.