Croeso i wefan Trefi Smart
Mae rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru wedi'i ymestyn tan 2026.
Mae'r rhaglen yn parhau i gefnogi busnesau, cynghorau a chymunedau i ddefnyddio technoleg ddigidol a data i adfywio eu strydoedd mawr, yn unol â'r agenda Trawsnewid Trefi.
Mae hyn yn golygu helpu busnesau i ddefnyddio data i weithio'n ddoethach ac nid yn galetach ac i nodi cyfleoedd ar gyfer twf; defnyddio data i gyfiawnhau a llywio buddsoddiad ac i fesur llwyddiant unrhyw ymyriadau.
Mae'r wefan hon yn darparu cyfoeth o wybodaeth am Drefi Smart yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Trefi Smart ar lefel tref, dechreuwch gyda'n llawlyfr dosbarthu Trefi Smart ar gyfer popeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau eich taith Trefi Smart. Gallwch daro golwg ar ein hastudiaethau achos a'n cynlluniau gweithredu ar gyfer ysbrydoliaeth. Dewch o hyd i ganllawiau penodol i leddfu eich pryderon casglu data.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sut y gall data Trefi Smart gefnogi eich busnes, ewch i'n tudalennau Cymorth Busnes i weld enghreifftiau o adroddiadau data sydd wedi helpu busnesau fel eich un chi! Peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer eich ymgynghoriad data busnes am ddim!
Mae ein Tîm Smart wrth law i ateb unrhyw ymholiadau ac i'ch cefnogi ar unrhyw gam o'ch taith. Cysylltwch â ni yma.
Digwyddiadau
