Rydych yma: Hafan > Newyddion a Blogiau > Mae Trefi Smart yn Trefi Cylchol- Dalthlu Mis Cylchol
Mae Trefi Smart yn Trefi Cylchol- Dalthlu Mis Cylchol
Mae Trefi Smart yn Trefi Cylchol
Disgrifiwyd Trefi Smart Cymru fel y berl gudd yng nghynllun digidol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chefnogi adfywio’r stryd fawr, mae’n cyd-fynd â sawl maes polisi allweddol arall yng Nghymru. Ym mis Medi eleni, mae Menter Môn yn dathlu’r economi gylchol – un arall o’r prosiectau cyffrous ac arloesol a gyflwynwn ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd ar ran Llywodraeth Cymru. Yn y blog hwn byddwn yn archwilio sut y gall technolegau Trefi Smart gefnogi economïau cylchol llewyrchus ledled Cymru.
Beth yw Tref Smart?
Mae Tref Smart yn defnyddio data o synwyryddion digidol i fonitro gweithgarwch (a’r amgylchedd) er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau mwy gwybodus. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu defnyddio data i weithio’n fwy effeithlon – gan leihau gwastraff, defnydd ynni a chyflenwadau gwerthfawr eraill – h.y. yr economi gylchol!
Er mai’r prif ffocws yn rhaglen Trefi Smart yw monitro nifer yr ymwelwyr ar y stryd fawr, gan helpu busnesau a gwneud penderfyniadau i ddeall a gwella perfformiad y stryd fawr, rydym hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n defnyddio amrywiaeth o synwyryddion gwahanol – o dymheredd, lleithder a gronynnau, i symudiad, sain a hyd yn oed adborth! Os oes gennych her yn eich busnes, mae’n debyg bod synhwyrydd ar ei chyfer!
Sut mae technolegau Trefi Smart yn ‘gylchol’?
Cyflwyno LoRaWAN – mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn rhwydweithiau LoRaWAN ar draws y wlad, gan ddarparu ffordd gost isel a chynaliadwy i synwyryddion anfon symiau bach o ddata dros bellteroedd hir. Ystyrir LoRaWAN ynddo’i hun yn dechnoleg ‘werdd’ – gall batris bara hyd at ddeg mlynedd a gellir eu pweru gan solar – neu hyd yn oed blanhigion!
Enghreifftiau o Ddefnyddio Trefi Smart yn yr Economi Gylchol
Un o egwyddorion craidd Trefi Smart yw “mae’r hyn a gaiff ei fesur yn cael ei reoli” – ac mae hyn yn arbennig o bwysig wrth symud tuag at economi fwy cylchol. Dyma rai straeon llwyddiant o raglen Trefi Smart:
Dŵr
Mae synwyryddion LoRaWAN yn cael eu defnyddio i fonitro lefelau lleithder mewn plannwyr cyhoeddus, gan sicrhau mai dim ond pan fo angen y caiff planhigion eu dyfrio. Mae hyn wedi arwain at arbedion mesuradwy mewn dŵr, amser a llafur, ac wedi cyfiawnhau buddsoddiad mewn systemau casglu dŵr glaw, gan greu system ddyfrhau gaeedig a gwirioneddol gylchol yn Y Fenni. Treialodd Y Fenni’r prosiect hwn fel rhan o raglen Trefi Smart, gan arwain at wobr “Garddio Cynaliadwy” Britain in Bloom, ac mae’r cysyniad bellach wedi’i raddio i fyny yn Wrecsam, gyda phob un o blannwyr cyhoeddus y ddinas bellach yn cael eu monitro ar gyfer garddio mwy doeth!
Ynni
Mae plygiau, synwyryddion a mesuryddion smart wedi’u galluogi gan LoRaWAN yn galluogi busnesau i fonitro a rheoli defnydd ynni, gan helpu i leihau biliau ac ôl troed carbon. Yn Nhredegyrn, darganfu synwyryddion a osodwyd mewn canolfan hamdden arbedion posibl o tua £24,000 y flwyddyn! Fedrwch chi ddarllem yr astudiaeth achos yn fama.
Gwastraff bwyd
Mae synwyryddion LoRaWAN mewn oergelloedd a rhewgelloedd yn gwneud llawer mwy na thicio’r blwch cydymffurfiaeth – maent yn helpu i dorri gwastraff ac amddiffyn adnoddau. Trwy awtomeiddio gwiriadau tymheredd ac anfon rhybuddion ar unwaith pan aiff rhywbeth o’i le, gall busnesau weithredu’n gyflym i achub stoc ac osgoi difetha. Mae hynny’n golygu llai o golledion, llai o fonitro â llaw, a mwy o werth yn cael ei gadw yn y system – sef union hanfod yr economi gylchol. Darllenwch yr astudiaeth achos yma i ddarganfod sut wnaeth cigydd yn Llangefni elwa o'r system.
Dangos newid ymddygiad
Pan fo prosiectau Economi Gylchol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus, mae’n hanfodol i arweinwyr prosiect allu dangos effaith er mwyn sicrhau cyllid yn y dyfodol – a’r gwerth gorau. Rydym wedi cynghori caffis atgyweirio ar ba ddulliau cyfrif ymwelwyr i’w defnyddio er mwyn profi bod eu lleoedd yn cael eu defnyddio, bod ymweliadau dro ar ôl tro yn cynyddu, a chynllunio staffio yn unol â’r data.
Symleiddio gweithrediadau
gan fod cyllid yn aml yn gyfyngedig ar gyfer prosiectau cymunedol, gall defnyddio llwyfannau archebu digidol ar gyfer gwasanaethau fel ailgylchu / uwchgylchu neu sesiynau hyfforddi gynyddu effeithlonrwydd, gan sicrhau mai dim ond lle mae galw y defnyddir adnoddau. Gellir defnyddio gwybodaeth am nifer yr ymwelwyr a’r ddemograffeg hefyd i lywio oriau agor, staffio a marchnata.
Posibiliadau a chyfleoedd diddiwedd…
Y tu hwnt i gwmpas stryd fawr rhaglen Trefi Smart, mae cyfleoedd diderfyn i dechnoleg Smart gefnogi economi fwy cylchol – o reoli gwastraff i gompostio smart, olrhain asedau ac hyd yn oed cynnal a chadw rhagweledol i ymestyn oes peiriannau ac offer.
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gall technoleg a data Trefi Smart eich helpu i wneud arbedion ac i dyfu eich busnes, cysylltwch: smarttowns@mentermon.com
Rhagor am Mis Cylchol
Mae Mis Cylchol, a ddathlir ym mis Medi gan Menter Môn, yn fenter fis o hyd sy’n anelu at arddangos ac annog gweithredu ymarferol lleol ar gyfer yr economi gylchol ledled Ynys Môn a Gwynedd. Trwy Mis Cylchol, mae cymunedau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithdai – o gyrsiau dodrefnu a digwyddiadau ffasiwn araf i lanhau traethau a gweithdai gwneud sglefrfyrddau – gan dynnu sylw at ffyrdd bob dydd y mae pobl a busnesau’n lleihau gwastraff, yn atgyweirio eitemau, ac yn gwneud y gorau o adnoddau lleol.
Nod y prosiect yw meithrin newid ymddygiad, cefnogi arferion cynaliadwy, a dangos effaith gweithgareddau economi gylchol, oll wrth adeiladu cysylltiadau cymunedol a sgiliau mewn mannau croesawgar, hygyrch fel rhwydwaith gofodau gwneud Ffiws.
Archwiliwch galendr Mis Cylchol isod i weld beth sy’n digwydd gerllaw i chi!
🔗 https://calendr.360.cymru/lleoliad/mis-cylchol-menter-mon-3/
🔗 https://www.ffiws.cymru/en/