#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau > Astudiaethau Achos > Glynebwy: Arbedion costau ynni mewn canolfan hamdden leol

Glynebwy: Arbedion costau ynni mewn canolfan hamdden leol

Her: Roedd Canolfan Hamdden Glynebwy yn rhagweld y byddai eu defnydd ynni blynyddol a’u bil yn codi o tua £400,000 i £1.4miliwn yn y flwyddyn ariannol diwethaf heb gynnydd cyfatebol mewn refeniw. Roeddent yn ysu i edrych ar ffyrdd o leihau costau.

Ateb: Gosododd Damian Williams, Swyddog Cyflawni IoT 4 synhwyrydd amgylcheddol Milesight ac 1 synhwyrydd tymheredd pwll yng Nghanolfan Hamdden Glyn Ebwy ar gyfer CBSBG. Gadawyd y synwyryddion i redeg am 4 i 6 wythnos a chynhaliwyd adolygiad cyntaf gyda rheolwyr y Ganolfan Hamdden a rheolwr prosiect y Cymoedd Technoleg. Gwnaeth newidiadau i amseriadau aerdymheru y gampfa yn uniongyrchol o edrych ar y data yr oeddem wedi'i gasglu. Gostyngodd 7 awr o amser rhedeg y dydd.

Gadawyd y gosodiadau diwygiedig am 4 i 6 wythnos arall tra bod y synwyryddion yn cronni'r data a chynhaliwyd ail adolygiad. Dangosodd yr adolygiad nad oedd y newidiadau a wnaed yn effeithio’n negyddol ar gysur y cwsmeriaid na’r defnydd o’r gampfa ond eu bod yn arbed ynni. Rhannwyd y data hwn gyda Rheolwr y Ganolfan Hamdden a'i annog i gynnal archwiliad ynni ar wresogi yn y ganolfan hamdden.  Roedd y ganolfan chwaraeon hefyd wedi newid gorchuddion y pwll am gloriau mwy effeithlon ar ôl gweld y data.

Mae'r synwyryddion sydd wedi'u gosod hefyd yn gallu darparu gwybodaeth am oleuadau neuadd chwaraeon, gan yrru hysbysiad pan fyddant yn cael eu gadael ymlaen ar ôl amser cau. Yr oedd hyn yn caniatáu staff y ganolfan hamdden cael eu hysbysu pan gadawyd y goleuadau ymlaen ac eu hannog i sicrhau eu bod yn cael eu diffodd cyn gadael yr adeilad, ac felly yn arbed arian - nid ond un bwlb golau oeddan nhw'n arbed, mae'r neuadd chwaraeon yr un maint â dau gae 5 bob ochr dan do!

Canlyniad: Trwy osod y synwyryddion hyn, bydd y ganolfan hamdden yn arbed tua 170kWh y dydd yn y gampfa a'r ganolfan hamdden, ar gost o tua 41c y kWh. Arbediad amcangyfrifedig o £69.70 y dydd! Os byddwch yn cyfrifo hyn dros flwyddyn bydd hyn yn arbediad amcangyfrifedig o £24,000!

*mae'r holl ffigurau wedi'u hamcangyfrif a heb eu cadarnhau

Math o synwyryddion a ddefnyddir: 

  • Synwyryddion Amgylchedd Milesight - Co2, Tymheredd, Lleithder, TVOC (cyfansoddion organig anweddol), golau - cost gyfartalog £280 y synhwyrydd
  • Decentlab Chwiliwr tymheredd pwll - cost gyfartalog £700 y synhwyrydd