#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Newyddion a Blogiau > dewch i ddeall data eich stryd fawr!

dewch i ddeall data eich stryd fawr!

  • Hoffech chi nodi'r dyddiau a'r amseroedd prysuraf i drefnu eich staffio a'ch stocio yn fwy effeithlon?
  • Hoffech chi ddeall mwy am y ddemograffeg sy’n ymweld â’ch stryd fawr, i wneud yn siŵr bod eich busnes a’ch hysbysebu yn apelio atynt?
  • Hoffech chi gymharu eich data gwerthiant eich hun â thueddiadau ar y stryd fawr i ddarganfod beth sy'n effeithio ar eich busnes?

Yn ddiweddar, mae Trefi SMART Cymru wedi sicrhau mynediad i Lwyfan Mewnwelediad Lleoliad ‘Active Intelligence’  BT, sy’n ein galluogi i gael mynediad at ddata o ansawdd uchel i’ch helpu i ddeall eich stryd fawr yn well. Gallwn gynnig ymgynghoriad data rhad ac am ddim i’ch busnes, lle byddwn yn eich tywys drwy’r tueddiadau ar eich stryd fawr ac yn trafod yr hyn y gallent ei olygu i’ch busnes.

 

Beth yw BT Active Intelligence?

Mae'n blatfform mewnwelediad lleoliad sy'n cael ei bweru gan data rhwydwaith symudol a gymerwyd o 24 miliwn o ddyfeisiau ffôn symudol  EE. Yna caiff y data hwn ei agregu a'i ddienwi i ddarparu tueddiadau ynghylch symudiad poblogaeth a demograffeg ar gyfer unrhyw ardal o'r DU (enghraifft isod, o'r ardaloedd y gall y data hwn eu cwmpasu). Mae BT yn darparu’r data hwn i Drefi SMART am gost sy’n eu galluogi i ddeall mwy am ymwelwyr â’n rhanbarth.

Yna mae'r platfform yn rhoi'r data isod i ni mewn ffordd sy'n wirioneddol hawdd i ddeall;

Data Nifer Ymwelwyr :sydd yn eich galluogi i weld tueddiadau tymhorol, dyddiau ac amseroedd brig a pha mor hir y mae pobl yn ei dreulio ar y stryd fawr.

Mewnwelediadau Cwsmeriaid : dadansoddiad o bobl o fewn y lleoliadau a ddewiswyd yn ôl demograffeg, megis oedran, rhywedd a grym gwario.

Mewnwelediadau Dalgylch : darganfyddwch o ble mae eich ymwelwyr canol tref yn teithio.

Rydym yn cynnig sesiwn 1:1 am ddim i fusnesau lleol yng Nghymru i weld a deall eu data stryd fawr a sut mae’n effeithio ar eu busnes. Llenwch y ffurflen fer isod a bydd y tîm yn cysylltu â chi.

Sesiwn 1:1 am ddim i fusnesau