#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau > Dadansoddi Data > Dadansoddi Data ar gyfer Trefi Smart

Dadansoddi Data ar gyfer Trefi Smart

A ydych wedi rhoi cynnig ar ein hofferyn data sy’n eich galluogi i nodi a chael mynediad at bob math o ddata sy’n berthnasol i strydoedd mawr Cymru? Fel rhan o’r prosiect hwn, buom yn gweithio gydag Urban Foresight a gynhaliodd archwiliad data llawn, gan ganfod er bod cyfoeth o ddata ar gael i fusnesau Cymreig ei ddefnyddio – anaml y manteisir arno.

O’n sgyrsiau o amgylch y wlad, gwyddom mai’r esboniad syml yma yw bod busnesau’n aml yn rhy brysur i wneud y gwaith hwn, hyd yn oed os gallai arbed amser ac arian iddynt yn y pen draw. Dychmygwch os fysa rhywun yn gwneud y gwaith iddyn nhw…

Rydym nawr yn edrych i archwilio a allai dadansoddwyr data rhanbarthol helpu i gefnogi trefi Cymru i gael mewnwelediadau o'r data sydd ar gael. I’r perwyl hwn, rydym wedi comisiynu adroddiad gan Urban Foresight sydd wedi ymgynghori â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru, i bennu’r angen am y rôl hon, ac i amlinellu sut olwg fyddai arni.

Darllen yn adroddiad

A fyddech chi'n defnyddio'r gwasanaeth hwn? A oes gennych unrhyw adborth ar yr adroddiad? Rhowch wybod i ni drwy e-bostio smarttowns@mentermon.com