#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Newyddion a Blogiau > Dathlu Llwyddiannau Trefi Smart Wrecsam yn ystod Eisteddfod 2025

Dathlu Llwyddiannau Trefi Smart Wrecsam yn ystod Eisteddfod 2025

Llun o bobl yn cerdded ar Hope Street yn Wrecsam

Wrth i Eisteddfod Wrecsam 2025 ddod â diwylliant, cerddoriaeth a chymuned i galon y ddinas, mae'n gyfle perffaith i ddathlu sut mae Wrecsam hefyd yn arwain y ffordd ym maes arloesi digidol drwy fenter Trefi Smart Llywodraeth Cymru

 

Cynhadledd Trefi Smart gyntaf Cymru


Ym mis Mawrth 2024, cynhaliodd Wrecsam gynhadledd Trefi Smart gyntaf Cymru ar y cyd â Threfi Smart Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a BT. Daeth arloeswyr o bob cwr o’r DU ynghyd i arddangos sut y gellir defnyddio data, synwyryddion a llwyfannau digidol i adfywio canol trefi a chefnogi busnesau lleol. Mae modd gwylio rhai o'r sesiynau ar ein sianel YouTube.

 

Swyddog Trefi Smart cyntaf Cymru

 

Mewn carreg filltir arall i Gymru, penododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam David Evans fel swyddog Trefi Smart cyntaf y wlad i arwain trawsnewid digidol y ddinas. Mae’r rôl hon yn pontio’r bwlch rhwng technoleg ac anghenion lleol, gan gefnogi busnesau, gwasanaethau’r cyngor a’r gymuned ehangach i wneud y mwyaf o ddata ac offer digidol. Trwy gael rhywun ar y safle sy’n deall heriau’r stryd fawr a photensial technoleg smart, mae Wrecsam yn gosod patrwm i drefi a dinasoedd eraill ledled Cymru.

 

Llwyfan Digidol VZTA: Grymuso Busnesau Lleol


Daeth Wrecsam yn gyngor cyntaf y DU i fabwysiadu sgrins digidol ar gyfer llwyfan Trefi Smart VZTA gan NearMeNow, gan roi’r gallu i bron i 100 o fusnesau lleol:


• Hyrwyddo eu cynigion mewn amser real ar draws sgriniau digidol cyhoeddus ac ar ap VZTA
• Diweddaru argaeledd, bargeinion a gwybodaeth am ddigwyddiadau ar unwaith – heb unrhyw gost iddynt
• Cyrraedd miloedd o ymwelwyr yn ddigidol yn ystod digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod
Mae’r fenter hon yn helpu i leihau gwastraff bwyd, cynyddu gwelededd, a chysylltu busnesau annibynnol â chynulleidfaoedd newydd.

Synwyryddion Smart ar gyfer Dinas Fwy Smart a Gwyrdd


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod dros 600 o synwyryddion ar draws y ddinas i fonitro:


Lleithder pridd ac amserlenni dyfrhau
• Ansawdd aer ac amodau amgylcheddol
• Nifer ymwelwyr a phatrymau traffig
• Perygl llifogydd a thywydd
• Defnydd o feysydd parcio


Arbedodd y synwyryddion hyn £32,000 i’r cyngor mewn costau dyfrhau yn unig yn ystod cyfnod prawf o 7 mis, ac maent bellach yn darparu data byw i gefnogi penderfyniadau a chynllunio gwasanaethau.

Mesur Effaith Economaidd yr Eisteddfod drwy Ddata Smart


Mae seilwaith smart Wrecsam yn chwarae rhan allweddol wrth fesur effaith Eisteddfod Wrecsam:


• Mae synwyryddion nifer ymwelwyr ar draws canol y ddinas yn casglu data byw ar nifer yr ymwelwyr, eu symudiadau a’u hamseroedd aros
• Mae nifer o fusnesau lleol eisoes yn defnyddio cyfrifwyr mewn siopau ac offer dadansoddi i fonitro sut mae’r Eisteddfod yn effeithio ar eu masnach

Ynghyd â data ymgysylltu o’r ap VZTA a’r sgriniau, a mynediad at ddata BT Active Intelligence, bydd modd i Wrecsam asesu:


• Newidiadau yn nifer y cwsmeriaid sy’n cerdded drwy’r dref
• Amodau brig ac ardaloedd poblogaidd yn ystod y digwyddiad
• Pellter teithio ymwelwyr
• Ymgysylltiad y cyhoedd â chynigion a digwyddiadau lleol ar y pryd

Bydd y dystiolaeth hon yn helpu i:
• Fesur effaith economaidd digwyddiadau mawr ar ganol y dref
• Llunio buddsoddiadau yn y dyfodol mewn seilwaith, marchnata a digwyddiadau
• Cefnogi busnesau gyda phenderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a meincnodi perfformiad

Yn gryno, mae offer Trefi Smart yn rhoi’r gallu i Wrecsam ddeall ac ymateb i wir effeithiau’r Eisteddfod, o safbwynt diwylliannol a masnachol.

Wrth i brysurdeb yr Eisteddfod ddistewi, mae’r tîm Trefi Smart yn edrych ymlaen at gydweithio â busnesau Wrecsam i’w helpu i ddeall sut mae digwyddiadau’n effeithio ar y stryd fawr ac i ganfod ffyrdd ymarferol y gall data gefnogi a chryfhau eu busnes.

Darllen pellach
Y dull arloesol o fesur gweithgarwch yn Eisteddfod Boduan