#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Adnoddau > Astudiaethau Achos > Llwyddiant Smart I Dref Yng Ngogledd Cymru

Llwyddiant Smart I Dref Yng Ngogledd Cymru

Mae ‘Blwyddyn y Trefi SMART’ yn gynllun sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’r amcan ydi galluogi busnesau i gynllunio prosiectau fydd yn arwain at dyfiant economaidd yn ogystal â’u helpu nhw i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i gynorthwyo cwmniau i ddeall eu cwsmeriaid yn well, a deall patrymau yn well. Bydd y wybodaeth yma wedyn yn cefnogi busnesau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y dyfodol a pharatoi deunydd marchnata.

Dywedodd Richard Howells,  perchennog busnes Olive Tree – “Pe bai gennym ni ddata ar draws y dref mi fyddai’n ddiddorol iawn gweld faint o amser mae pobl yn ei dreulio yn y siop. Pa feysydd parcio sydd brysuraf ac felly pryd mae ymwelwyr yn dueddol o basio’r siop – mae yna botensial enfawr i fusnes fel ein un ni.

Mae tref SMART yn ardal drefol sy’n defnyddio gwahanol fathau o ddulliau a synwyryddion electronig i gasglu data. Defnyddir mewnwelediadau a gafwyd o’r data hwnnw i reoli asedau, adnoddau a gwasanaethau yn effeithlon; yn gyfnewid am hynny, defnyddir y data hwnnw i wella gweithrediadau a ffyniant y dyfodol ledled y dref.

Un o’r trefi sydd wedi manteisio ar y cynllun yma ydi’r Wyddgrug. Dechreuodd llwyddiant y dref yma wrth i aelodau o’r gymuned fynychu gweithdai ‘Blwyddyn y Trefi SMART’ oedd yn cael eu cynnal gan Menter Môn. Caiff y gweithdai yma eu defnyddio er mwyn, egluro’r cysyniad, cynorthwyo aelodau wrth iddyn nhw ystyried yr heriau sy’n eu hwynebu nhw, ac adnabod datrysiadau SMART posib wrth greu cynllun gweithredu.

Teimlai Joanna Douglass – Swyddog Busnes ac Adfywio Cyngor Tref y Wyddgrug bod y cynlluniau gweithredu yn bwysig er mwyn: “Just cael y bobl a’r busnesau sydd yn y dref i weld sut neith o weithio iddyn nhw. Pa mor bwysig ydi’r dechnoleg yma a’r data sydd yn dod allan ohono fo, iddyn nhw allu ei ddefnyddio fo yn eu busnesau nhw.”

Cafodd y cynllun gweithredu SMART ei ddefnyddio i gefnogi cais cyllideb lwyddiannus gan Gyngor Sir y Fflint i osod seilwaith digidol mewn 6 tref er mwyn cefnogi adfywiad trefi.

Dywedodd Maer yr Wyddgrug, y Cynghorydd Sarah Taylor – “Dwi’n meddwl bod gwybodaeth a data yn hynod o bwysig er mwyn gwneud penderfyniadau o fewn y dref. Bydd y dechnoleg cyfri ymwelwyr y byddwn ni’n ei dderbyn trwy’r cais sydd wedi ei roi ger bron yn allweddol wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r cynllun Trefi SMART yn gobeithio y bydd llwyddiant y Wyddgrug yn annog trefi ac awdurdodau lleol eraill i gysylltu â nhw. Mae’r cynllun yma yn cael ei redeg trwy Gymru gyfan ac felly mae’n gyfle perffaith i unrhyw un fanteisio ar y cyngor a’r arbenigedd sydd ar gael.

Yn ôl Niall Waller – Rheolwr Menter ac Adfywiad yng Nghyngor Sir Y Fflint – “Mae Cyngor Sir Y Fflint yn falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o brosiect Blwyddyn y Trefi SMART. Y Wyddgrug fydd y dref gyntaf i fod yn rhan o’r daith yma. Rydym yn edrych ymlaen at arw at gael mwy o drefi yn ymuno ar y daith ac rydym wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn cael yr offer i wneud hynny.”