Rydych yma: Hafan > Adnoddau > Astudiaethau Achos > Cau’r Porthladd – Mesur yr Effaith ar Stryd Fawr Caergybi
Cau’r Porthladd – Mesur yr Effaith ar Stryd Fawr Caergybi
Trosolwg
Caergybi yw un o’r trefi sy’n derbyn cymorth gan raglen Trefi SMART Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan Menter Môn. Mae’r fenter hon yn helpu trefi, busnesau a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio data a thechnoleg i adfywio'r stryd fawr. Mae mynediad at ddata o ansawdd uchel nid yn unig yn galluogi busnesau i weithredu’n fwy effeithlon, mae hefyd yn rhoi gwybodaeth hanfodol am sut mae ffactorau allanol—fel cau'r porthladd—yn effeithio ar nifer yr ymwelwyr a masnach.
Ar 6 Rhagfyr 2024, achosodd Storm Darragh ddifrod sylweddol i Borthladd Caergybi ar Ynys Môn, a bu’n rhaid cau'r Porthladd o’r herwydd. Bu’r Porthladd ar gau tan 16 Ionawr 2025, pan ailagorodd yn rhannol i ailddechrau’r gwasanaethau fferi rhwng Caergybi a Dulyn. Ond, mae un o’r ddwy angorfa fferi yn dal ar gau ar hyn o bryd oherwydd gwaith atgyweirio.
Roedd cau’r Porthladd wedi amharu ar deithio a masnach rhwng y DU ac Iwerddon, a hefyd wedi cael effaith fawr ar fusnesau yng Nghaergybi yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn.
Er mwyn mesur yr effaith uniongyrchol gafodd hynny ar y stryd fawr, mae Trefi Smart Cymru wedi adolygu data BT Active Intelligence a ddadansoddwyd gyda dwy set ddata ar wahân.
At ddibenion yr astudiaeth achos yma, mae ardal y ddwy set ddata i’w gweld ym mhatrwm 1 a phatrwm 2.
Cau’r Porthladd – yr effaith ar fusnesau Caergybi
Mae busnesau lleol wedi mynegi eu pryderon isod ac wedi rhannu effaith uniongyrchol y storm:
“Yn amlwg, roedd cau Porthladd Caergybi am bron i chwe wythnos wedi cael effaith fawr ar lawer o fusnesau yng Nghaergybi. Yn achos gwestai a thai llety, roedd hyn yn amlwg dros ben dros gyfnod prysur y Nadolig, pan gafodd y rhan fwyaf o archebion ystafelloedd eu canslo oherwydd bod y porthladd ar gau. Roedd y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr yn y dref, sy’n brysur fel rheol, wedi effeithio hefyd ar siopau, caffis, bwytai a siopau tecawê, gyda phob un yn dweud bod busnes wedi lleihau’n sylweddol.”
Howard A N Browes, Perchennog Busnes a Chadeirydd Fforwm Busnes Cybi
Mae Keith Roberts, Cynghorydd Sir Ynys Môn, wedi sylwi ar y gostyngiad sylweddol hwnnw mewn masnach yng Nghaergybi oherwydd prinder teithwyr fferi a gyrwyr cludo nwyddau. Eglurodd fod y gyrwyr hyn yn aml yn cymryd seibiant ac yn bwyta’n lleol wrth aros i gasglu llwyth arall, gan gyfrannu at fasnach leol.
Soniodd busnesau lleol eraill am effaith cau’r Porthladd:
Busnes
Chanthi's - Bwyty Thai yng nghanol y dref
Yr Effaith a Nodwyd - Masnach wedi gostwng 50%
Mete's - Tecawê bwyd cyflym
Yr Effaith a Nodwyd - Masnach wedi gostwng 25%
Orient, Traeth Newry, Caergybi - Gwely a Brecwast
Yr Effaith a Nodwyd - Archebion wedi gostwng 40% - 45%, ac wedi colli gwerth dros £2,000 o fusnes. Wedi gorfod canslo a rhoi ad-daliad ar gyfer 41 o ystafelloedd.
Haven, Traeth Newry, Caergybi - Gwely a Brecwast
Yr Effaith a Nodwyd - Masnach wedi gostwng 90% dros gyfnod y Nadolig
Wavecrest, Traeth Newry, Caergybi - Gwely a Brecwast
Yr Effaith a Nodwyd - Dros £1500 o golledion
Witchingham, Traeth Newry, Caergybi - Gwely a Brecwast
Yr Effaith a Nodwyd - Dros £2000 o golledion

Ychwanegodd Claudia Howard, Perchennog The Boathouse Hotel:
‘Mae The Boathouse Hotel, gwesty 17 ystafell wely gyda bar a bwyty, yn fusnes teuluol bach sy’n cyflogi 13 o bobl leol drwy gydol y flwyddyn, gyda 4-6 o swyddi tymhorol ychwanegol. Roedd cau Porthladd Caergybi wedi cael effaith fawr ar fasnach, sydd wedi cael sgil-effaith ar ein cadwyni cyflenwi, ac mae hefyd wedi effeithio ar ein staff. O ganlyniad i’r cyhoeddiad y byddai’r Porthladd yn aros ar gau tan fis Ionawr, cafodd 147 o archebion rhwng mis Rhagfyr a dechrau Ionawr eu canslo – tua 44%-46% o’n harchebion ar gyfer cyfnod gwyliau’r Nadolig. Mewn termau ariannol, mae hyn yn golled o £14,700 yn seiliedig ar gyfartaledd o £100 yr ystafell, heb gynnwys gwariant pellach yn y bar a’r bwyty ac amser brecwast. Er nad yw pob preswylydd yn bwyta/defnyddio’r bar yma, a gan dybio mai dim ond un person sydd ym mhob ystafell, yn seiliedig ar wariant o hyd yn oed £10 y pen ar gyfartaledd mae hyn yn dod i gyfanswm o £1,470 – er bod rhai ystafelloedd yn cynnwys 3-4 o bobl, a bod biliau'r bwyty ar gyfer 4 o bobl yn dod i £75-£85. Ar ben hynny, mae gennym gontractau gyda chwmnïau bysiau ar gyfer prydau tri chwrs i hyd at 45 o bobl sy’n teithio i Iwerddon neu oddi yno. Mewn gwirionedd, mae’r refeniw rydym wedi’i golli yn nes at oddeutu £19k-£20k.’
Parhau i Ddarllen:
Astudiaeth Achos Cau’r Porthladd