#TrefiSmartCymru

Rydych yma: Hafan > Newyddion a Blogiau > Cefnogaeth AM DDIM I Fusnesau'r Stryd Fawr Yng Nghymru

Cefnogaeth AM DDIM I Fusnesau'r Stryd Fawr Yng Nghymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Medi Parry-Williams bellach yn rhan o’r Tîm Trefi Smart, ein Cynghorydd Data Stryd Fawr cyntaf.

Mae Medi yn cynnig ei harbenigedd pwrpasol mewn ffurf galwad ar-lein 1:1, gweithdy grŵp neu ymweliad â’ch busnes i i gyd AM DDIM i’ch helpu i ddarganfod sut y gall data gefnogi eich busnes a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol i arbed amser / cost o ran staffio a stocio.

Byddwch yn gallu gweld a deall eich data stryd fawr gyda chymorth ein trwydded gyda BT Active Intelligence, (mae rhagor o fanylion am beth yw BT Active Intelligence i'w weld yn ein herthygl ddiweddaraf) gan roi cipolwg i chi ar;

  • Nifer yr ymwelwyr â'ch stryd fawr
  • Y cyfnodau prysur (yr amseroedd gorau i agor eich drysau)
  • Yr amseroedd sydd ddim mor brysur (er mwyn ad-drefnu eich rotâu efallai)
  • Cwsmeriaid eich stryd fawr (A allech chi gynyddu eich prisiau?)
  • O ble mae eich ymwelwyr stryd fawr yn dod? (Oes angen i chi ymestyn eich marchnata?)

Os ydych yn awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn, llenwch y ffurflen Cymorth Busnes yma, fel arall os hoffech gysylltu â Medi yn uniongyrchol e-bostiwch medi@mentermon.com

Ychydig o gefndir Medi..

Medi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr MPW Making Places Work a gyda hi mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant canolfannau siopa a adfywio canol trefi. Mae Medi yn adnabyddus am ei digonedd o egni, technegau datrys problemau a sgiliau proffesiynol, y mae'n eu rhannu i helpu i rymuso pobl eraill a galluogi lleoedd i dyfu. Cryfder craidd Medi yw gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd a phroffidioldeb ochr yn ochr â chynyddu nifer yr ymwelwyr a darparu profiad cwsmeriaid eithriadol. Yn ddiweddar, roedd Medi yn gyfrifol am reoli a gweithredu saith canolfan siopa (a leolir mewn gwahanol ranbarthau yn y DU) gan lwyddo i ysgogi nifer uchel o bobl a chefnogi dros 300 o fusnesau cenedlaethol ac annibynnol. Trwy weithio mewn partneriaeth a marchnata effeithiol, roedd Medi yn gallu cefnogi busnesau i dyfu, ffynnu a chyflawni targedau gwerthu, gan arwain at gyfradd llenwi o 97% yn y portffolio. Adeiladodd Medi berthnasoedd cryf, hirdymor gyda'r busnesau a llwyddodd i'w cefnogi trwy nifer o wahanol strategaethau llwyddiannus.

 

Beth ydych chi'n aros amdano? … Cysylltwch â ni rŵan!